Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
4 Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6617
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf rhithwir, gydag Aelodau yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gofynnwyd y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.19
Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Helen Mary Jones (Canolbarth and Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y penderfyniad i gau'r gronfa cadernid economaidd yn gynnar i geisiadau sy'n ymwneud â'r cyfnod atal byr?
4 Datganiadau 90 eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.38
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad am - Wythnos Hinsawdd Cymru.
5 Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell
Dechreuodd yr eitem am 15.40
NDM7448 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Atal trafodion cyn pleidleisiau electronig o bell’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Hydref 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 34.14D, fel y nodir yn Atodiad A adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
6 Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 15.40
NDM7453 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Cynnig i ethol Aelod i Bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 15.41
NDM7454 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Mark Reckless (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20
Dechreuodd yr eitem am 15.41
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7447 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
52 |
3 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
9 Dadl ar ddeisebau: Addysgu hanes mewn ysgolion
Dechreuodd yr eitem am 16.08
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7450 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r deisebau canlynol ynglŷn â dysgu hanes mewn ysgolion:
a) Deiseb ‘P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu’ a gasglodd 7,927 o lofnodion; a
b) Deiseb ‘P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru’ a gasglodd 34,736 o lofnodion.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
4 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
10 Cyfnod pleidleisio
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, am 17.10, cafodd y trafodion eu hatal dros dro er mwyn caniatáu egwyl technegol cyn y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 17.18
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.20
NDM7449 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cymesuredd cyfyngiadau symud Llywodraeth Cymru.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.43
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 10 Tachwedd 2020